Menu
Cart
Treganna Gin
Cart
  • BUY NOW
  • Treganna Times
  • Contact Us
  • Cymraeg
Close Menu
Close Cart
Sloe-Gin-featured-image
05/10/2020

Sut mae creu Jin Eirin Tagu

Cynhyrchu jin eirin tagu cartref – gweithred sy’n arwyddocâd bod Nadolig ar y gorwel. 

Rhan amlaf, yr Hydrfef ydi’r amser gorau i fynd i gasglu eirin tagu. Mae sawl arwydd sy’n dangos bo’r ffrwyth yn aeddfed –  welwch chi liw piws tywyll ar y ffrwyth, neu mae’r ffrwyth yn teimlo’n feddal neu welwch chi ambell eirin wedi disgyn i’r llawr yn barod.

Er mwyn creu jin eirin tagu safonol, yn draddodiadol oedd rhaid disgwyl am y barrug cyntaf cyn casglu’r ffrwyth, ond diolch i Curry’s a Dixon’s, fedrwch anwybyddu’r cyngor yma….

Mae’n bwysig rhewi’r ffrwythau yn y rhewgell am o leia 24 awr o flaen llaw. Mae’r rhewi yn achosi i groen y ffrwyth i dorri’n wastad, rwbath sy’n galluogi’r blas i rhedeg heb rhwystr i’r alcohol. Mae’n bosib malu’r ffrwythau efo llaw wrth gwrs, ond gallwch byth a chreu yr un effaith a mae’r rhewgell yn gneud. 

Y BROSES

 

  1. Casglwch y ffrwyth aeddfed. 
  2. Cofiwch rhewi’r eirin tagu am o leiaf 24 awr.
  3. Rhowch y ffrwyth mewn jar gwydr ceg-lydan fyny at hanner ffordd.
  4. Tolltwch jin o safon (fel Treganna Gin?) at dop y jar. 
  5. Arhoswch am 3 mis, gan ei droi ambell waith.
  6. Straeniwch y jin eirin tagu ac ychwanegwch siryp siwgwr nes bod o’n blasu yn ol eich dewis
  7. Mwynhewch

Rwan bo chi wedi creu jin eirin tagu cartref, beth am drio’r jin mewn coctel arbennig…

JIN EIRIN TAGU RHOSMARI & LIMONCELLO

  • 50ml Jin Eirin Tagu
  • 25ml Limoncello
  • Dwr pefriog
  • 2 frigyn o rhosmari, un i dorri ac un fel garnais

Rhwygwch y dail oddi ar un brigyn ac rhowch mewn ysgydwr coctel efo’r limoncello.

Dyrnwch (muddle).

Ychwanegwch rhew a’r jin eirin tagu, ysgwydwch yn wyllt nes mae’r hylif yn oer oer.

Straeniwch mewn i wydr llawn rhew.

Topiwch fyny efo dwr pefriog a brigyn o rhosmari fel garnais.

Gift Ideas from Independent Welsh Producers

Related Posts

Blossom & Nectar

Uncategorized

Gift Ideas from Independent Welsh Producers

How to make Tonic water.

Uncategorized

How to Make Tonic Water at Home

billy

Uncategorized

Billy the Seal, Victoria Park and the glorious Welsh coast

MORE POSTS

  • Sut mae creu Jin Eirin Tagu 05/10/2020
  • Gift Ideas from Independent Welsh Producers 13/08/2020
  • How to Make Tonic Water at Home 30/06/2020
  • Billy the Seal, Victoria Park and the glorious Welsh coast 15/06/2020
  • Bottling Gin with Cardiff Beeswax 27/05/2020

SOCIAL

Products

  • Treganna Gin 500ml x 6 £124.99
  • Treganna Gin 50ml £4.99
  • BUY NOW
  • Treganna Times
  • Contact Us
  • Cymraeg
© Treganna Gin 2021
Website by / Wefan Gan Ctrl Alt Design
Treganna Gin. White Crofts, St George’s-Super-Ely, Cardiff, CF5 6EW / 07790 365 875 / info (@) tregannagin.co.uk